Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd

Dyddiad: Dydd Iau, 15 Mehefin 2017

Amser: 09.30 - 14.35
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4218


Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Dai Lloyd AC (Cadeirydd)

Dawn Bowden AC

Jayne Bryant AC

Angela Burns AC

Rhun ap Iorwerth AC

Caroline Jones AC

Julie Morgan AC

Tystion:

Dr Victor Aziz, Coleg Brenhinol y Seiciatryddion

Julie Denley, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Liz Carroll, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Cheryl Williams, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Tanya Strange, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Stewart Blythe, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Dave Street, Association of Directors and Social Services (ADSS)

Chris Hopkins, Y Groes Goch Brydeinig

Dave Worrall, Y Groes Goch Brydeinig

Paul Gerrard, Y  Co-op

Rachel Connor, Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg (GVS)

Linda Pritchard, Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg (GVS)

Rhodri Walters, Men Sheds Cymru

Staff y Pwyllgor:

Sian Thomas (Clerc)

Claire Morris (Ail Glerc)

Stephen Boyce (Ymchwilydd)

 

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Lynne Neagle AC.

 

2       Ymchwiliad i unigrwydd ac unigedd – sesiwn dystiolaeth 5 – Coleg Brenhinol y Seiciatryddion

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Goleg Brenhinol y Seiciatryddion.

 

3       Ymchwiliad i unigrwydd ac unigedd – sesiwn dystiolaeth 6 – Conffederasiwn GIG Cymru

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Fyrddau Iechyd y Prifysgolion.

3.2 Cytunodd Tanya Strange i ddarparu dangosyddion ansawdd bywyd y Campaign for Loneliness a ddefnyddiwyd i werthuso eu gwaith.

 

4       Ymchwiliad i unigrwydd ac unigedd – sesiwn dystiolaeth 7 – Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas y Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol (ADSS)

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol (ADSS).

 

5       Ymchwiliad i unigrwydd ac unigedd – sesiwn dystiolaeth 8 – Y Groes Goch Brydeinig yng Nghymru

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr y Groes Goch Brydeinig yng Nghymru.

 

6       Ymchwiliad i unigrwydd ac unigedd – sesiwn dystiolaeth 9 – Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg (GVS)

6.1 Derbyniodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg (GVS).

 

7       Ymchwiliad i unigrwydd ac unigedd – sesiwn dystiolaeth 10 - Men’s Sheds Cymru

7.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Men's Sheds Cymru.

 

8       Papurau i’w nodi

 

8.1   Ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016/17 – gohebiaeth gan y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys

8.1a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys.

 

8.2   Ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016/17 – gohebiaeth gan Goleg Brenhinol y Meddygon

8.2a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Goleg Brenhinol y Meddygon.

 

8.3   Ymchwiliad i ofal sylfaenol – gwybodaeth ychwanegol gan Fwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan am Gyllid Datblygu Clystyrau

8.3a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Fwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan am Gyllid Datblygu Clystyrau.

 

8.4   Ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016/17 – llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

8.4a Nododd y Pwyllgor y llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon.

 

8.5   Ymchwiliad i ofal sylfaenol – gwybodaeth ychwanegol gan Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg am Gyllid Datblygu Clystyrau

8.5a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ynghylch Arian Datblygu Clystyrau.

 

9       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

9.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

10   Ymchwiliad i unigrwydd ac unigedd – trafod y dystiolaeth.

10.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a roddwyd yn ystod eitemau 2, 3, 4, 5, 6 a 7 y cyfarfod.